Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Oedolion y maent yn 18 oed neu'n hŷn ac y maent yn byw ym Mro Morgannwg – Y rhai y maent yn gofalu am oedolion y maent yn 18 oed neu'n hŷn (gofalwyr)
Mae'n fwy tebygol yr asesir bod angen gofal a chymorth arnoch:
• os ydych yn hŷn neu'n eiddil
• os oes gennych chi anabledd corfforol
Neu os ydych yn ofalwr sy'n cynorthwyo oedolyn neu oedolion y mae ganddynt anghenion gofal a chymorth.
Mae gan y tîm hefyd Therapyddion Galwedigaethol sy'n gweithio gyda phlant - i gynghori ac asesu ar gyfer addasiadau ac offer yn y cartref lle mae anabledd sy'n effeithio ar sut mae'r plentyn a'r teulu yn ymdopi.