skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chymorth Cynnar - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 26/06/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chymorth Cynnar (GCIChC) yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sy'n cymryd rhan, neu sydd mewn perygl o gymryd rhan, mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu a dioddefwyr eu troseddau/ymddygiad.


Ein gweledigaeth yw cefnogi pobl ifanc i adeiladu ar eu cryfderau a chyflawni eu potensial trwy nodi ein huchelgeisiau i wneud y canlynol:

- Gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau pobl ifanc, eu teuluoedd, dioddefwyr a'r gymuned trwy ddull adferol.
- Gweithio gyda phobl ifanc i adeiladu ar eu cryfderau, gwella eu cyfleoedd ac annog penderfyniadau gwell trwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Gwerthfawrogi pwysigrwydd pobl ifanc a chael ein gyrru gan degwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.