Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Pwy all y Cysylltwyr Cymunedol ei Gefnogi?
Mae’r gwasanaeth ar gyfer unrhyw un sy’n byw yng Ngheredigion, waeth beth fo’u hincwm neu eu hamgylchiadau personol.
Os ydych yn teimlo’n unig, yn ei chael hi’n anodd byw’n annibynnol, neu’n teimlo eich bod chi wedi eich eithrio’n gymdeithasol, mae’r Cysylltwyr Cymunedol yma i’ch helpu.
Mae’r gwasanaeth yn RHAD AC AM DDIM ac mae Cysylltwyr Cymunedol yn gwasanaethu’r sir gyfan.